Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (66) |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13:30
Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14:28
3. Penderfyniad Ariannol ynghylch Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol).
Dechreuodd yr eitem am 14:37
NDM4890 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69(ii), sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Gosodwyd Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) gerbron y Cynulliad ar 30 Ionawr 2012.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
4. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ: Cynllun Buddsoddi mewn Seilwaith i Gymru ar gyfer Twf a Swyddi
Dechreuodd yr eitem am 14:38
5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd: Y Polisi Amaethyddol Cyffredin: Safbwynt Cymru
Dechreuodd yr eitem am 15:24
6. Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: Trefniadau newydd ar gyfer darparu cymorth gyda’r Dreth Gyngor yng Nghymru
Dechreuodd yr eitem am 16:04
7. Dadl ar ganlyniadau’r ymgynghoriad ar ‘Adnoddau Naturiol Cymru’
Dechreuodd yr eitem am 16:35
NDM4891 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi canlyniadau’r ymgynghoriad ‘Adnoddau Naturiol Cymru’ ynghylch y cynnig i ddatblygu un corff i reoli adnoddau naturiol yng Nghymru.
Mae
canlyniadau’r ymgynghoriad “Adnoddau Naturiol
Cymru” ar gael drwy fynd i:
http://wales.gov.uk/consultations/environmentandcountryside/singlebody/?skip=1&lang=cy
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi sylw i bryderon y sector coedwigaeth a fynegwyd yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad.
Derbyniwyd y gwelliant yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod arbenigedd masnachol y sector coedwigaeth yn cael ei adlewyrchu’n ddigonol yn nhrefniadaeth unrhyw un corff amgylcheddol newydd, fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn ei adroddiad i’r achos busnes dros un corff amgylcheddol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ebrill 2012.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd gweddill y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Gwelliant 3 - William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod yr achos busnes dros yr uno wedi’i gyhoeddi cyn ymgynghori ar nodau’r un corff amgylcheddol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
0 |
30 |
59 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi pryderon presennol sector coedwigaeth Cymru o ran creu’r un corff amgylcheddol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
58 |
0 |
0 |
58 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ail-archwilio prif nodau ac amcanion strategol yr un corff amgylcheddol er mwyn cael sicrwydd ac eglurder llwyr yn eu cylch.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
5 |
39 |
58 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o arbenigedd masnachol yn y sefydliad newydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
58 |
0 |
0 |
58 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o drefniadau diogelu yn yr un corff amgylcheddol petai gwrthdaro mewn buddiannau rhwng y tir y mae Llywodraeth Cymru yn berchen arno a’r trefniadau caniatáu ar gyfer prosiectau ynni ar y tir hwnnw.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
58 |
0 |
0 |
58 |
Derbyniwyd gwelliant 7.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4891 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi canlyniadau’r ymgynghoriad ‘Adnoddau Naturiol Cymru’ ynghylch y cynnig i ddatblygu un corff i reoli adnoddau naturiol yng Nghymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi sylw i bryderon y sector coedwigaeth a fynegwyd yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod arbenigedd masnachol y sector coedwigaeth yn cael ei adlewyrchu’n ddigonol yn nhrefniadaeth unrhyw un corff amgylcheddol newydd, fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn ei adroddiad i’r achos busnes dros un corff amgylcheddol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ebrill 2012.
Yn nodi pryderon presennol sector coedwigaeth Cymru o ran creu’r un corff amgylcheddol.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o arbenigedd masnachol yn y sefydliad newydd.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o drefniadau diogelu yn yr un corff amgylcheddol petai gwrthdaro mewn buddiannau rhwng y tir y mae Llywodraeth Cymru yn berchen arno a’r trefniadau caniatáu ar gyfer prosiectau ynni ar y tir hwnnw.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
58 |
0 |
0 |
58 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 17:22
8. Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17:25
NDM4889 Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth):
Cyfranogaeth a grymuso yn nyfodol Gwasanaethau Gofal yng Nghymru – Mentrau Cydweithredol, Cwmnïau Cydfuddiannol a thaliadau uniongyrchol.
I drafod profiadau o ran taliadau uniongyrchol yn ogystal â modelau cydfuddiannol a chydweithredol ar gyfer gwasanaethau gofal yn dilyn adroddiad Scope “Unigoliaeth neu Gyfunoliaeth ym Maes Gofal: A all taliadau uniongyrchol helpu i greu cymunedau cryfach?”
Daeth y cyfarfod i ben am 17:46
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, ddydd Mercher, 23 Mai 2012